Pwnc y Ddadl

Gall mwynhad cyhoeddus o Ddyfroedd Cymru fod yn ddadleuol, ond nid fel hyn y bu erioed.

Ceid cydnabyddiaeth o Hawl Cyhoeddus i ddefnyddio dŵr cyn 1750. Ni cheir statud hollgynhwysol neu gyffredinol sy’n dileu hawliau oedd yn bod yn barod, dim ond tybiaeth ar ran rhai fod hyn wedi newid yn sgil newid yn y defnydd o ddyfroedd Cymru. Os yw hawliau preifat wedi cael eu dosrannu neu’u gwerthu ers hynny, delir yr hawliau hyn yn ddarostyngedig i hawl cyhoeddus. Tra byddai hawliau pysgota’n cael eu rhoi’n wreiddiol ar gyfer cael modd i fyw, fe’u defnyddir yn fwy aml erbyn hyn am bwrpasau hela.

Am y rhan fwyaf o amser, mwynheir dyfroedd Cymru gan ystod eang o ddefnyddwyr, gan rannu'r adnodd naturiol gwych hwn heb unrhyw wrthdaro. Ond, ceir rhai pobl sy’n credu eu bod, neu y dylent fod, â hawl i fynediad unigryw i’r dŵr a’r glannau. Gall hyn arwain at wrthdaro rhwng defnyddwyr gwahanol neu rhwng defnyddwyr a thirfeddianwyr. Mae rhai unigolion yn awyddus i nodi bod “Y Gyfraith” yn datgan nad oes unrhyw hawl cyhoeddus i fordwyo ar ddŵr yng Nghymru a Lloegr. Mewn gwirionedd nid oes yna’r un statud, nac o’r pwys blaenaf nac yn ymddangosiadol, sy’n cefnogi’r haeriad hwn.

Mae’r Ddeddf Gefn Gwlad a Hawl Tramwyo (GGHL) 2000 a basiwyd gan Lywodraeth y DU, ac sydd yn berthnasol ar hyn o bryd i Gymru a Lloegr, yn ceisio cyfyngu ar gyfleoedd i’r cyhoedd arfer eu hawl mordwyo trwy wahardd mynediad ar gyfer hamddena ar y dŵr ar dir a ddynodwyd fel tir hygyrch o dan ddeddf GGHL.

Ar gyfer y rhan fwyaf o genhedloedd Ewrop, a bron iawn ymhobman arall yn y Byd, eglurwyd y safle cyhoeddus drwy ddeddf. Yn fwyaf diweddar, corfforodd yr Alban hawliau cyhoeddus gyda chyfrifoldebau yn Neddf Ddiwygio Tir (Yr Alban) 2003, gyda Chod Awyr Agored cysylltiedig. Mae gan Lywodraeth Cymru'r gallu i basio deddfwriaeth debyg ar gyfer Cymru, ond maent wedi dangos cyndynrwydd anesboniadwy i wneud hynny.

Mae’r gyfraith ynglŷn â defnydd cyhoeddus o ddyfroedd mewndirol yng Nghymru, ac eithrio hawliau hela, yn aneglur i bawb. Cymerodd Llywodraeth Cymru safbwynt cwbl anghynaladwy trwy hawlio bod y safle cyfreithiol yn aneglur, a seilio eu strategaeth ar un dehongliad yn unig.

Er enghraifft, pan gefnogodd Llywodraeth Cymru drefniant cyfyngus ar ran uchaf Afon Gwy, datganodd Asiantaeth yr Amgylchfyd yn 2005::

Our support and instigation of access agreements on rivers where rights to navigate may or may not exist does not constitute a comment on whether such rights exist or not. Such agreements are a pragmatic approach to securing recreational opportunities for the public. It is not currently our policy to seek to investigate any such rights on the Upper Wye

Of course it is open to individuals or organisations to assert a right they believe they have, and were any such rights to be challenged to seek their confirmation via a legal process. Were any rights to navigate on the Upper Wye be confirmed by the courts, we would of course give due regard to any such judgement.

Nid yw hon yn ffordd resymol na chynaliadwy i lywodraeth reoli hawliau cyhoeddus mewn cenedl fodern.

Termau Hygyrchedd

Yn hanesyddol, mae termau a defnyddir wrth drafod hygyrchedd cyhoeddus wedi peri cryn ddryswch. Bydd CD yn defnyddio’r rhai a ganlyn::

Hygyrchedd::
Hygyrchedd dros dir neu ohono i ddod at ddyfrffordd. Ar hyn o bryd, gan amlaf trwy hawl tramwy dros dir neu ohono gyda chaniatâd gan y tirfeddiannwr neu’r tenant.

Mordwyo:
Teithio i lawr dyfrffordd, ar hyd iddi neu drosti. Gellir gwneud hyn mewn llong, cwch neu fad neu trwy nofio.

Cytundebau Hygyrchedd, Trefniannau; VAAau:
Mae’r rhain yn dueddol o gael eu seilio ar gyfyngu gweithgaredd i un neu ragor o grwpiau defnyddwyr. Yn aml iawn o natur ddryslyd a gorgymhleth, tueddant i ffafrio lles un grŵp o randdeiliaid yn hytrach na lles grwpiau eraill. Ni cheir gorfodi cytundebau preifat rhwng defnyddwyr penodol ar y cyhoedd. Nid cytundebau cyfyngus yw’r ffordd i sicrhau hygyrchedd ond gellir eu defnyddio rhwng partïon cyfartal i reoli gweithgaredd. A Brief History of Water Access Hanes Byr Hygyrchedd Dŵr